Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Medi 2020
Amser:
09.00 -
09.41
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Nododd y Pwyllgor Busnes benderfyniad y Llywydd i barhau â Chyfarfodydd Llawn hybrid yr wythnos hon, yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol â’r Rheolwyr Busnes.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai Aelodau meinciau cefn Llafur ac aelodau'r llywodraeth yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hybrid o bell yr wythnos hon.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth yn y copi diwygiedig o Fusnes yr Wythnos Hon a ddosbarthwyd ddoe:
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am Gyfyngiadau Lleol y Coronafeirws wedi cael ei symud yn ddiweddarach yn yr agenda.
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i ohirio tan 13 Hydref.
· Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd wedi'i ohirio tan 6 Hydref.
Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd newid pellach i symud y rheoliadau iechyd cyhoeddus i ddod yn gynharach yn y dydd.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd ddoe:
Dydd Mawrth 6 Hydref 2020 -
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a
Chysylltiadau Rhyngwladol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau
ym Mholisi Masnach y DU (45 munud) – Gohiriwyd tan 3 Tachwedd
2020
·
Datganiad gan Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft i Fynd i'r
Afael â Thlodi Tanwydd yng Nghymru (45
munud) -
Gohiriwyd tan 20 Hydref 2020
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Cynllun Adferiad Coronafeirws (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau cyllidol COVID-19 a rhagolygon cyllideb y dyfodol (45 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot a Tor-faen 2020
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Hydref 2020 -
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud) - gohiriwyd o 29 Medi.
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
o Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 7 Hydref 2020 –
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb
(60 munud)- gohiriwyd
tan 14 Hydref
· Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 01-20 (15 munud)
· Cynnig i ddirprwyo awdurdod i wneud y trefniadau ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc (5 munud)
· Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro (15 munud)
Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud)- gohiriwyd o 7 Hydref
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit
(60 munud) –
gohiriwyd tan 4 Tachwedd
Dydd Mercher 21 Hydref 2020 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot a Torfaen 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Yn dilyn trafodaeth yn y ddadl yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r ysgrifenyddiaeth am bapur ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf ar y broses gadarnhaol gwnaed.
4.5 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, a dyddiad y ddadl arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn o 3 Tachwedd ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a 6 Hydref ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd.
Cyfeiriodd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Tachwedd 2020.
Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth i graffu arno.
5 Y Cyfarfod Llawn
5.1 Rheoli amser y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunwyd i drefnu llai o ddadleuon eraill pan fydd eitemau 30 munud fel cwestiynau'r Comisiwn wedi'u trefnu.
6 Pwyllgorau
6.1 Amserlen y Pwyllgorau
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion yn blaenoriaethu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, ond gofynnodd i bwyllgorau roi cymaint o rybudd â phosibl, yn enwedig ar ddyddiau pan gynhelir cyfarfodydd y Cabinet.